Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
11.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13134
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Hazel Wright, Undeb Amaethwyr Cymru Dylan Morgan, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Huw Thomas, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Libby Davies, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Robert Donovan, Clerc Angharad Roche, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Katie Wyatt, Cynghorydd Cyfreithiol Gruffydd Owen, Cynghorydd Cyfreithiol Masudah Ali, Cynghorydd Cyfreithiol Katy Orford, Ymchwilydd |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Datganodd Sam Kurtz fuddiant fel Cyfarwyddwr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
2 Papur(au) i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Llythyr gan Oxfam Cymru a WEN Cymru
2.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.4 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.5 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
3 Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 2
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan y tystion. Byddai Undeb Amaethwyr Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am briodoldeb y pŵer yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) i ddarparu cymorth ar gyfer ‘gweithgareddau ategol’, y mae rhai ohonynt ymhellach i fyny’r gadwyn cyflenwi bwyd.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
5 Preifat
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.